Ddim wedi clywed am ZOom?..... Be!
Gwefan ydi ZOom i ddisgyblion Ysgol Uwchradd sy'n teithio ar fws Ysgol.
Yn anffodus nid yw dal y bws Ysgol bob amser yn brofiad da i rai disgyblion gan fod bwlio yn digwydd ambell waith. Holwch Eifon a Thor am hyn.
Mae ZOom eisiau i chi gael profiad da ar y trip i'r Ysgol ac felly mae eisio cadw eich siwrnai mor bleserus â phosibl a heb fygythiad bod rhywun yn camymddwyn ar y bws.
ZOom...! Drosodd i chi!
(P.S Mae Zoom yn rhan o brosiect mwy i atal ymddygiad gwrth gymdeithasol ar fysus Ysgol.)